Cynhadledd Gregynog Mehefin 7fed – 11eg
Bob blwyddyn cynhelir cynhadledd breswyl yn Neuadd Gregynog (canolfan gynadledda Prifysgol Cymru) ar gyfer staff llyfrgelloedd ac adrannau Technoleg Gwybodaeth i drafod datblygiadau diweddar ac i rannu profiadau. Trefnir y gynhadledd gan HEWIT a WHELF.
Mi fydd y gynhadledd yn dilyn y fformat arferol â thestunau o ddiddordeb i lyfrgellwyr ar ddydd Llun a Mawrth, testunau TG ar ddydd Iau a Gwener a raglen o ddiddordeb i bawb ar ddydd Mercher.
Y flwyddyn hon, cynhelir y gynhadledd o Fehefin 7fed – 11eg. Os carech ddod i’r gynhadledd, mae manylion y raglen a ffurflen archebu lle ar gael.

Os carech noddi Gregynog 2010, mae nifer o gyfleuon noddi ar gael.
Os carech roi cyflwyniad yn ystod y gynhadledd, edrychwch yma am fanylion pellach am themau 2010.
..
